Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 3
Tachwedd 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Mesurau Diogelu Iechyd ar ôl y Cyfnod Atal Byr
(45 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymorth Strategol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
(30 munud)
5 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Dyfodol Gwasanaethau Rheilffyrdd - Manylion y trefniadau newydd
(45 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Blwyddyn 4 y Rhaglen Tai Arloesol - Thema Dulliau Adeiladu Modern/Modiwlar
(30 munud)
7 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Cynllun Adfer Economaidd - Gohiriwyd tan 17 Tachwedd 2020
(0 munud)
8 Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Ddigartrefedd - Tynnwyd yn ôl
(0 munud)
9 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Diweddariad ar Ddatblygiadau ym Mholisi Masnach y DU - I'w gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig
(0 munud)
10 Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
(5 munud)
NDM7446 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
1) Adrannau 2 - 24;
2) Atodlen 2;
3) Adran 1;
4) Adrannau 25 - 38;
5) Atodlen 3;
6) Adrannau 40 - 50;
7) Atodlen 4;
8) Adran 51;
9) Adran 39;
10) Adran 53;
11) Atodlen 5;
12) Adrannau 54 - 56;
13) Atodlen 6;
14) Adran 57;
15) Atodlen 7;
16) Adrannau 58 - 63;
17) Atodlen 8;
18) Adrannau 64 - 66;
19) Adran 52;
20) Adrannau 67 - 87;
21) Atodlen 9;
22) Adrannau 88 - 114;
23) Atodlen 10;
24) Adrannau 115 - 135;
25) Atodlen 11;
26) Adran 136;
27) Atodlen 12;
28) Adran 137;
29) Atodlen 1;
30) Adrannau 138 - 160;
31) Atodlen 13;
32) Adrannau 161 - 163;
33) Atodlen 14;
34) Adrannau 164 - 174;
35) Teitl hir.
11 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 - Tynnwyd yn ôl
(0 munud)
12 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020
(30 munud)
NDM7445 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriath, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
13 Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Ty Gwydr 2020
(15 munud)
NDM7444 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Gorffennaf 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad Fframwaith Cyffredin y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
14 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) - Gohiriwyd tan 17 Tachwedd 2020
(0 munud)
15 Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020 - Tynnwyd yn ôl
(0 munud)
16 Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru - Gohiriwyd tan 17 Tachwedd 2020
(0 munud)
17 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2020